Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 4
Gorffennaf 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(45 munud)
(45 munud)
(30 munud)
(60 munud)
NDM6352 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Deddf Cymru 2014 yn caniatáu ar gyfer creu trethi Cymreig newydd.
2. Yn cydnabod y bydd gofyn profi'r agwedd newydd hon ar y peirianwaith datganoli.
3. Yn croesawu ystod eang o syniadau ynglŷn â sut y gellid defnyddio'r posibiliadau cyllidol newydd hyn yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai unrhyw drethi newydd gadw at y farn a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf 2016, "ni fydd unrhyw newid dim ond er mwyn newid."
'Datganiad Ysgrifenedig - Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)'
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau i adolygiad annibynnol o unrhyw drethi newydd gael ei gwblhau o fewn chwe blynedd i gyflwyno'r trethi hynny.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 5 Gorffennaf 2017